09 Rhag 2024
Er bod Storm Darragh erbyn hyn wedi gadael Cymru, mae ei heffaith yn parhau i gael ei theimlo gan gymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin gan fod llawer o breswylwyr yn parhau i fod heb drydan a chyfleustodau eraill.
Ers nos Wener, mae staff Cyngor Sir Caerfyrddin a phreswylwyr ar draws cymunedau wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y penwythnos ac yn parhau i wneud hynny er mwyn rhoi trefn ar bethau yn dilyn Storm Darragh.
Mae staff, gyda chefnogaeth contractwyr coed, yn clirio tua 300 o goed o'r rhwydwaith ffyrdd ac wedi ailagor bron pob ffordd A a B yn y sir. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithio drwy gydol y dydd i glirio ffyrdd bach a diddosbarth, ac rydym yn rhagweld y gallai gymryd sawl diwrnod i glirio'r holl ffyrdd a chael gwared ar yr holl rwystrau o'r priffyrdd.
Bydd Canolfannau Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin yn Nyffryn Aman, Caerfyrddin, Llanymddyfri, Llanelli, Castellnewydd Emlyn a Sanclêr yn parhau ar agor tan 10:30pm heno, nos Lun, 9 Rhagfyr, fel canolfannau galw heibio i breswylwyr.
Mae'r gefnogaeth sydd ar gael yn y Canolfannau Galw Heibio yn cynnwys man cynnes gyda diodydd poeth ar gael, cyfleusterau gwefru ar gyfer dyfeisiau trydan, dŵr poeth i bobl ddod â'u fflasgiau eu hunain a mynd â nhw adref, a defnyddio cyfleusterau cawod.
Yn ogystal â dyletswyddau arferol ein staff gofal cartref, aeth ein tîm yr ail filltir i sicrhau bod anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu bodloni.
Yn awr wrth symud ymlaen, rydym yn derbyn nifer digynsail o alwadau'n ymwneud â phroblemau eiddo. Gofynnwn i bobl roi gwybod am bob gwaith atgyweirio bach ar-lein a rhoi gwybod am faterion brys dros y ffôn ar 01267 234567
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Mae ymdrechion ein staff sydd wedi mynd yr ail filltir i ddarparu gwasanaethau hanfodol y Cyngor i'n preswylwyr, yng nghanol Rhybuddion Tywydd Coch, Oren a Melyn Storm Darragh y penwythnos hwn, yn destun balchder o'r mwyaf i mi.
"Ar ran y Cyngor Sir, hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu gwaith anhygoel. Rydych yn glod i Sir Gaerfyrddin ac rydym yn falch iawn ohonoch ac yn ddiolchgar dros ben i chi. Diolch o waelod calon.”
Rydym yn gofyn i breswylwyr barhau i gael gwybod am gefnogaeth a gweithredoedd y Cyngor o ganlyniad i Storm Darragh trwy ymweld â gwefan y Cyngor a'r cyfryngau cymdeithasol.
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk
Nodyn i'r golygyddion
Gwybodaeth ychwanegol am wasanaethau
Mae naw ysgol Cyngor Sir ar gau heddiw, dydd Llun, 9 Rhagfyr, oherwydd toriad trydan ac mae'r ysgolion yr effeithiwyd arnynt wedi cyfathrebu'n uniongyrchol â rhieni a gwarcheidwaid.
Bydd canolfannau ailgylchu gwastraff cartref Nant-y-caws, Trostre a Hendy-gwyn ar Daf yn ailagor yfory i gynorthwyo'r rheiny sydd â gwastraff ychwanegol oherwydd Storm Darragh. Bydd Canolfan Ailgylchu Wern Ddu yn parhau ar gau ddydd Mawrth, fel sy'n arferol.
Bydd yr amgueddfeydd yn ailagor fel arfer yfory (dydd Mawrth 10 Rhagfyr).
Mae Parc Gwledig Pen-bre ar agor heddiw gyda llwybr golau'r Nadolig ar agor heno.