16 Gor 2025
Wrth i'r ysgolion baratoi i gau ar gyfer yr haf, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi teuluoedd drwy gynnig rhaglen fywiog o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac adloniant ym mhob rhan o'r sir.
Darganfod Sir Gâr yw'r lle gorau i fynd i weld y rhestr ddiweddaraf o ddigwyddiadau ac atyniadau. O wyliau cymunedol i weithgareddau sy'n addas i deuluoedd, mae cymaint i edrych ymlaen ato yr haf hwn.
Mae lleoliadau'r Cyngor Sir, gan gynnwys ein parciau gwledig hardd, yn ganolog i'r cyfan.
Parc Gwledig Pen-bre
Llyn Llech Owain
Ym Mhentywyn, gall teuluoedd brofi cyflymder a gwyddoniaeth yn yr Amgueddfa Cyflymder, ac yna mwynhau rownd o Wallgolff newydd cyffrous Caban, sef cwrs antur lliwgar 12 twll sydd eisoes yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr.
Drwy gydol yr haf, mae Canolfannau Hamdden Actif y Cyngor Sir yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i helpu teuluoedd i gadw'n egnïol ac i'w difyrru. O offer gwynt yn y pwll nofio, Byrddau Dŵr, a brwydrau Nerf i ddiwrnodau gweithgareddau ar thema a sesiynau creadigol, mae digonedd o bethau i'w gwneud. Mae Clwb Actif, y clwb gwyliau poblogaidd, hefyd yn ôl, gan gynnig opsiynau hanner diwrnod a diwrnod llawn i rieni sy'n gweithio. Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i weithgareddau hygyrch, bydd sesiynau nofio am ddim ar gael i blant dan 16 oed ar benwythnosau penodol yng Nghanolfannau Hamdden Llanelli, Dyffryn Aman a Llanymddyfri.
Mae llyfrgelloedd Sir Gâr yn cynnal gweithgareddau ymarferol am ddim drwy gydol y mis, o amser stori a chwarae LEGO i glybiau crefftau a chodio sy'n cynnig hwyl, dysgu a chreadigrwydd i blant o bob oedran.
Mae Theatrau Sir Gâr yn cynnig digwyddiadau cyffrous ar draws theatrau'r Lyric, y Glowyr, a'r Ffwrnes. Mae'r rhaglen yn cynnwys sioeau teuluol, cerddoriaeth fyw, nosweithiau comedi, a sioeau cerdd, gan gynnwys uchafbwyntiau fel Breadcrumbs, Ceridwen, 9 to 5 The Musical, The Louis & Ella Music Show, comedi stand-yp, ac One Foot in the Groove, sef rêf yn ystod y dydd. Bydd diwrnodau hwyl i'r teulu am ddim hefyd yn cael eu cynnal ym mhob lleoliad drwy gydol yr haf.
Mae timau cymunedol Actif yn cyflwyno gweithgareddau ledled y sir yr haf hwn, gan gynnwys llogi beiciau am bris fforddiadwy gan Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili i deuluoedd feicio ar hyd rhan orllewinol newydd Llwybr Dyffryn Tywi. Mae gan Sir Gâr ddarpariaeth feicio wych gan fod Llwybrau Sustrans 4, 437, a 47 yn mynd drwy'r sir gan gynnig ffordd hwyliog a fforddiadwy o fwynhau arfordir a chefn gwlad y sir.
Ewch i fwynhau picnic ar un o draethau Sir Gâr sydd wedi ennill gwobrau, sef Cefn Sidan, Pentywyn, neu Lansteffan, neu archwilio adfeilion dramatig cestyll Carreg Cennen, Dinefwr, a Chydweli i gael blas ar hanes ac antur. I gael ysbrydoliaeth ar ble i fynd ar hyd yr arfordir, gwyliwch fideos arfordirol Ameer sy'n dangos y rhannau gorau o arfordir Sir Gâr.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Mae'r Cyngor Sir yn falch o arwain a chefnogi rhaglen lawn ac amrywiol o ddigwyddiadau yr haf hwn i helpu teuluoedd i fanteisio i'r eithaf ar wyliau'r ysgol. Drwy ymdrechion y Cyngor ei hun, ochr yn ochr ag ymroddiad sefydliadau, lleoliadau a grwpiau cymunedol lleol, mae rhywbeth at ddant pawb, boed hynny'n ddiwrnodau allan fforddiadwy, anturiaethau awyr agored, gweithdai creadigol, neu brofiadau diwylliannol. Mae Sir Gâr yn llawn gweithgareddau, digwyddiadau a lleoedd i'w mwynhau."
I weld y rhestr lawn, manylion archebu, a rhagor o syniadau ar gyfer eich anturiaethau i'r teulu, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk