Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

23 Meh 2025

Sir Gaerfyrddin yn dathlu bod Cymru wedi cyrraedd UEFA EWRO Menywod 2025

Carmarthenshire celebrates Wales’ historic qualification for UEFA Women’s EURO 2025

Sir Gaerfyrddin yn dathlu bod Cymru wedi cyrraedd UEFA EWRO Menywod 2025: football 9-2

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal dathliad cenedlaethol heddiw wrth i grys enfawr Cymru ddod i'r Clos Mawr, Caerfyrddin — fel rhan o Daith 'Ein Crys Cymru' Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy'n nodi bod Cymru wedi creu hanes drwy gyrraedd UEFA EWRO Menywod 2025. Mae'r digwyddiad ar agor tan 7pm heno, ac mae preswylwyr lleol, ysgolion a chefnogwyr pêl-droed yn cael eu hannog i ymuno â'r dathliadau a dangos eu cefnogaeth i dîm cenedlaethol y merched.

Mae'r crys chwyddadwy 4 metr o daldra yn symbol blaengar, amlwg o falchder Cymru, sy'n cynnwys y geiriau "EWRO 2025", gemau'r grŵp ar y blaen, a rhestr o'r garfan lawn swyddogol ar y cefn - a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gopa'r Wyddfa i lansio'r daith genedlaethol.

Roedd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin; y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth; a'r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn gynharach heddiw i ddangos eu cefnogaeth a chael tynnu eu lluniau ar bwys y crys.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Mae hwn yn ddiwrnod balch i Sir Gaerfyrddin ac yn ddathliad pwerus o ba mor bell mae pêl-droed merched yng Nghymru wedi dod. Mae 'Ein Crys Cymru' yn sefyll am fwy na chwaraeon yn unig, mae'n cynrychioli hunaniaeth, cydnabyddiaeth a chynnydd go iawn. Mae'n anrhydedd gennym groesawu'r daith i Gaerfyrddin a chefnogi ein tîm cenedlaethol."

Mae taith 'Ein Crys Cymru' yn anrhydeddu pwrpas uwch tîm merched Cymru: "I chwarae dros newid. I chwarae i ysbrydoli. Amdanom Ni. Amdanyn Nhw. Amdani Hi". Mae'n adlewyrchu'r daith o fenthyg citiau dynion yn nyddiau cynnar y tîm i arddangos enwau chwaraewyr gyda balchder ar eu crysau eu hunain, carreg filltir a gyflawnwyd yn 2019 yn unig.

Fel rhan o'r dathliadau heddiw, ymwelodd ysgolion cynradd lleol a chlybiau pêl-droed merched â'r Clos Mawr trwy gydol y bore ac yn gynnar yn y prynhawn, i fwynhau gweithgareddau ar thema pêl-droed, lluniau tîm gyda'r crys, a'r cyfle i recordio negeseuon lwc dda i'r chwaraewyr.

Gall ymwelwyr hefyd gasglu cynllunydd wal EWRO 2025 am ddim yn y digwyddiad, gan eu helpu i ddilyn taith Cymru drwy'r twrnamaint, sy'n cychwyn ar 5 Gorffennaf yn Lucerne yn erbyn yr Iseldiroedd.

Bydd y daith yn parhau i ymweld â threfi a dinasoedd ledled Cymru cyn dod i ben yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y gêm agoriadol.

Mae'r ffaith fod Ffion Morgan o Sir Gaerfyrddin yn y garfan genedlaethol yn golygu bod arwyddocâd arbennig i'r digwyddiad. Wedi'i geni yn Llandeilo, dechreuodd taith bêl-droed Ffion ar gaeau llawr gwlad Sir Gaerfyrddin gyda Thîm Iau Saron a Thîm Merched Rhydaman, ac mae bellach yn falch o gynrychioli Cymru a Dinas Bryste.

I ddathlu ei llwyddiannau ac i anrhydeddu ei lle yn hanes chwaraeon Cymru, mae crys Cymru swyddogol Ffion bellach yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Parc Howard yn Llanelli. Mae'r crys yn rhan o arddangosfa Chwalu Ffiniau yr amgueddfa, sy'n rhedeg tan 19 Hydref 2025 ac yn dathlu menywod arloesol mewn chwaraeon.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Mae Ffion yn fodel rôl gwych i bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin. Mae ei chynnwys yn y garfan genedlaethol yn gwneud y foment hon hyd yn oed yn fwy ystyrlon i'n cymunedau lleol."

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://newyddion.sirgar.llyw.cymru/2025/06/uefa-ewro-menywod/

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk

Lawrlwythiadau