Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

16 Gor 2025

Paratowch am Haf bythgofiadwy yng nghanol trefi Sir Gaerfyrddin!

Get ready for an unforgettable Summer in Carmarthenshire’s town centres!

Paratowch am Haf bythgofiadwy yng nghanol trefi Sir Gaerfyrddin!: LAF24-16 (003)-2

Diolch i gefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin a chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae canol trefi Sir Gaerfyrddin – Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman wedi dod yn fyw yr haf hwn gyda chyfres wych o ddigwyddiadau sydd wedi dod â chymunedau at ei gilydd, wedi dathlu talent leol, wedi arddangos cynnyrch lleol anhygoel, ac wedi helpu canol ein trefi i ffynnu. Mae hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau cyffrous ar y gorwel, gan ddod â hwyl, adloniant a phrofiadau bythgofiadwy i bawb.

Mae Sir Gaerfyrddin eisoes wedi dathlu Gŵyl Myrddin Caerfyrddin, Gŵyl Llanelli o'r 80au, a Gŵyl Fwyd Haf Rhydaman hynod lwyddiannus. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhan allweddol o genhadaeth y Cyngor i helpu i ddod â phobl yn ôl i ganol trefi, cefnogi masnachwyr annibynnol, a chreu canol trefi croesawgar.

Gyda llawer mwy o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio dros y misoedd nesaf, dyma amser perffaith i weld beth sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w gynnig.

Gŵyl Afon Caerfyrddin – 19 Gorffennaf

Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn cyflwyno Gŵyl yr Afon, dathliad o Afon Tywi ac ysbryd Caerfyrddin.  Dewch i fwynhau gweithgareddau ar thema dŵr, bwyd lleol, adloniant byw, a hwyl i bawb.

Pride Rhydaman – 2 Awst
Mae Cyngor Tref Rhydaman yn cynnal y digwyddiad Pride bywiog hwn, sy'n dathlu amrywiaeth a'r gymuned LGBTQ+ leol. Byddwch yn barod am ddiwrnod llawn lliw, llawenydd ac undod yng nghanol y dref.

AugustFest Llanelli – 10 Awst
Wedi'i drefnu gan Ymlaen Llanelli, mae AugustFest yn dychwelyd gyda bang! Dewch i fwynhau diwrnod o gerddoriaeth fyw, adloniant stryd, hwyl i'r teulu, a bwyd blasus. Bydd yn un o ddigwyddiadau mwyaf yr haf – diwrnod na ddylid ei golli!

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin

"Mae'r digwyddiadau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion parhaus i ddod â bywiogrwydd yn ôl i ganol ein trefi.  Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle gwych i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd ddod at ei gilydd, mwynhau ein trefi, a chefnogi busnesau lleol a hynny diolch i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy'n darparu cyllid wedi'i dargedu i gynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) ledled Sir Gaerfyrddin, a chefnogaeth barhaus gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r dull hwn yn helpu i annog ysbryd cymunedol a chreu canol trefi croesawgar, ffyniannus i bawb eu mwynhau."

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am beth sy'n digwydd ledled Sir Gaerfyrddin yr haf hwn a thu hwnt, ewch i Darganfodsirgar.com.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk