Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

08 Meh 2026

Masnachwyr Iau 2026 yn tynnu sylw at entrepreneuriaid ifanc ledled Sir Gaerfyrddin

Junior Traders 2026 highlights young entrepreneurs across Carmarthenshire

Masnachwyr Iau 2026 yn tynnu sylw at entrepreneuriaid ifanc ledled Sir Gaerfyrddin: 20260513 133326-2

Cafodd disgyblion ysgol gynradd gyfle i arddangos eu sgiliau entrepreneuraidd fel rhan o Gystadleuaeth Masnachwyr Iau 2026, gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman rhwng 13 a 15 Mai.

Cymerodd cyfanswm o 19 o ysgolion cynradd ran dros y tri diwrnod marchnad, gan wneud hon yn un o'r cystadlaethau mwyaf llwyddiannus hyd yma. Llwyddodd disgyblion i wneud mwy na £8,500 mewn gwerthiannau a thros £6,400 mewn elw.

Mae safon cyfranogiad yn parhau i godi, ac mae ysgolion yn dangos sgiliau cynllunio busnes cryf ac yn llwyddiannus yn mynd â syniadau o'r cysyniad i'r farchnad.

Yng Nghaerfyrddin, rhagorodd Ysgol Trimsaran, gan sicrhau gwobr y Stondin Orau a'r Elw Uchaf er gwaethaf cystadleuaeth gref.

Yn Llanelli, roedd y gystadleuaeth yn arbennig o agos. Dim ond tri phwynt (allan o 108 posibl) oedd rhwng y tair ysgol orau yn y categori Stondin Orau. Ysgol Penygaer gafodd y brif wobr, a chafodd Ysgol y Ffwrnes yr elw uchaf ar draws y tri digwyddiad.

Yn Rhydaman, enillodd Ysgol Penygroes wobr am y Stondin Orau. Er bod ysgol arall wedi dechrau'n gryf gyda gwerthiannau cyflym, fe wnaethon nhw werthu mas yn gynnar ar ôl tanamgyfrif lefelau stoc, felly enillodd Ysgol Pen-y-groes y wobr Elw Uchaf hefyd.

Rhoddwyd tlysau yn ystod pob digwyddiad, ac roedd cyflawniadau'r holl ddisgyblion yn wych. Er gwaethaf amodau tywydd heriol, dangosodd cyfranogwyr wytnwch a chreadigrwydd, gan wneud o mwyaf o bob cyfle i ddenu cwsmeriaid a gwerthu'r eitemau.

Hoffai'r trefnwyr ddiolch i staff addysgu ledled y sir am eu cefnogaeth wrth helpu disgyblion i gymryd rhan mewn profiad sy'n addysgiadol ac yn bleserus. Diolch hefyd i wahoddedigion anrhydeddus, partneriaid a busnesau lleol am gefnogi a beirniadu'r digwyddiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cymunedau a'r Gymraeg:

“Unwaith eto, mae'r Gystadleuaeth Masnachwyr Iau wedi dangos talent, creadigrwydd a phenderfyniad anhygoel ein pobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'n ysbrydoledig gweld disgyblion yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd go iawn, o gynllunio a gwaith tîm i ymgysylltu â chwsmeriaid ac ymwybyddiaeth ariannol. Mae'r rhain yn brofiadau gwerthfawr a fydd o fudd iddyn nhw ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Hoffwn longyfarch pob ysgol a gymerodd ran a diolch i'r athrawon, partneriaid a threfnwyr sy'n parhau i wneud y fenter hon mor lwyddiannus flwyddyn ar ôl blwyddyn.”

Diolch yn arbennig i Gyngor Tref Llanelli, Partneriaeth Gymunedol Llanelli, Siambr Fasnach Llanelli, Cyngor Tref Caerfyrddin, Siambr Fasnach Caerfyrddin, Foothold Cymru, The Secret Plant House, Stori Cymru a Tea Traders. Darparwyd offer ar gyfer y digwyddiadau gan Green Top Markets.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk