29 Mai 2025
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd grwpiau cymunedol lleol, cynghorau tref a chymuned, ac elusennau cofrestredig i wneud cais am grantiau o £1,000- £3,000 i gefnogi prosiectau sy'n gwella mannau gwyrdd a glas ledled y sir. P'un a yw ar gyfer plannu coed, gerddi cymunedol, mannau tyfu, atebion sy'n seiliedig ar natur, neu greu mannau cyhoeddus mwy croesawgar, rydyn ni eisiau clywed am eich syniadau!
Mae'r cyllid hwn ar gael i brosiectau yn ein prif ganolfannau (Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman) a'r Deg Tref: Cross Hands, Cwmaman, Cydweli, Talacharn, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, San Clêr a Hendy-gwyn ar Daf.
Mae Gwyrddu Sir Gâr yn ymrwymo £39,000 i gefnogi mentrau gwyrdd dan arweiniad y gymuned, diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Bwriad y cynllun hwn yw cefnogi cymunedau lleol i ddatblygu mannau awyr agored gwyrddach, mwy gwydn a hygyrch a fydd o fantais i bobl, lle a natur.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cynllunio a Chydlyniant Cymunedol:
"Mae hwn yn gyfle gwych i grwpiau lleol gymryd yr awenau wrth wella eu mannau awyr agored a chryfhau cysylltiadau yn y gymuned. Trwy fuddsoddi yn ein hamgylchedd naturiol, rydym yn gwella bioamrywiaeth, mynd i'r afael â heriau hinsawdd, a chreu lleoedd iachach, mwy bywiog i bobl eu mwynhau. Rwy'n annog pob grŵp cymwys yn yr ardaloedd targed i wneud cais a bod yn rhan o'r newid cadarnhaol hwn ar gyfer Sir Gaerfyrddin."
Mae ceisiadau ar agor tan ddydd Gwener 6 Mehefin 2025.
I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i Cynllun Grantiau Bach Seilwaith Gwyrdd a Glas dan arweiniad y Gymuned - Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk