Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

17 Gor 2025

Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymestyn gorchymyn rheoli cŵn i daclo baw cŵn

Carmarthenshire County Council extends dog control order to tackle dog fouling

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd camau pendant yn erbyn perchnogion cŵn anghyfrifol sydd ddim yn codi baw eu ci.

Yn ogystal â gofyn i'r cyhoedd am help i adnabod unigolion ar deledu cylch cyfyng sy'n gadael baw ci mewn mannau cyhoeddus, mae'r Cyngor Sir wedi cytuno i ymestyn ei Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Rheoli Cŵn am dair blynedd arall, tan fis Mehefin 2028, i helpu i warchod cymunedau a mannau cyhoeddus y sir rhag effaith perchnogion cŵn anghyfrifol.

Gall perchnogion cŵn sy'n torri'r gorchymyn gael hysbysiad cosb benodedig o £100 (sy'n gostwng i £50 os caiff ei dalu o fewn 10 diwrnod), neu wynebu erlyniad gydag uchafswm dirwy o £1,000.

Ers cyflwyno'r gorchymyn mae'r Cyngor wedi derbyn mwy na 3,400 o gwynion ynghylch baw cŵn a rheoli cŵn, a rhwng 2016 a 2024 fe roddodd y Cyngor 136 o hysbysiadau cosb benodedig ac erlyn mewn saith achos o beidio â thalu.

Nod y gorchymyn, a gyflwynwyd gyntaf yn 2016, yw mynd i'r afael â phryderon parhaus sy'n cynnwys baw cŵn, cŵn oddi ar dennyn mewn mannau amhriodol, a chŵn mewn parciau chwarae caeedig i blant.

Baw ci yw un o'r pethau mae pobl yn cwyno amdano amlaf i'r Cyngor o hyd. Yn ogystal â bod yn annymunol ac yn wrthgymdeithasol, mae baw cŵn yn risg ddifrifol i iechyd, yn enwedig iechyd plant, a gall achosi heintiau fel tocsocariasis sy'n gallu gwneud pobl yn sâl neu'n ddall hyd yn oed. Gall perchnogion cŵn anghyfrifol hefyd achosi gofid, niwsans, a lleihau'r mwynhad caiff pobl o'r mannau mae pobl yn eu rhannu yn Sir Gaerfyrddin.

O dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, mae'n drosedd i:

  • Gadael baw ci ar dir cyhoeddus
  • Gwrthod rhoi ci ar dennyn ar ôl cael cyfarwyddyd gan swyddog awdurdodedig i wneud
  • Gadael ci i fynd i fannau chwarae caeedig i blant

Mae'r gorchymyn yn cynnwys eithriadau priodol i bobl ag anableddau ac i gŵn gwaith.

Mae cefnogaeth y cyhoedd i'r gorchymyn dal yn gryf, gan i ymgynghoriad ar ddiwedd 2024 ddangos bod 98% o'r ymatebwyr yn cefnogi'r gofyniad i godi baw cŵn, bod 89% yn cefnogi'r grym i orchymyn rhoi cŵn ar dennyn, a bod 87% yn cefnogi gwahardd cŵn o fannau chwarae caeedig. Roedd 92% yn cefnogi ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus am dair blynedd arall. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys Heddlu Dyfed-Powys, cynghorau lleol, grwpiau mynediad, a sefydliadau lles cŵn.

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

"Mae'r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn Sir Gaerfyrddin yn ymddwyn yn gyfrifol ac rydyn ni'n diolch iddyn nhw am helpu i gadw ein cymunedau'n lân. Mae'n siom i ni o hyd fod lleiafrif yn dal i anwybyddu'r rheolau ac yn gadael baw cŵn mewn mannau cyhoeddus neu'n gadael i'w cŵn achosi niwsans i eraill. Yn ogystal â bod yn annymunol, mae'n risg i iechyd y cyhoedd ac yn tarfu ar y mwynhad mae pobl yn ei gael o'r mannau yma sydd i bawb.

Mae ymestyn y gorchymyn hwn yn dangos pa mor benderfynol ydyn ni i daclo'r problemau hyn a chefnogi'r mwyafrif cyfrifol. Mae rôl gyda ni i gyd o ran gwarchod ein parciau, ein llwybrau, a'n traethau ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol.”

Mae'n bosibl bydd awgrymiadau ychwanegol a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, fel rheolau llymach ar gyfer caeau chwaraeon ac adolygu parthau gwahardd ymhellach, yn cael eu hystyried ar wahân. Mae'r Cyngor hefyd wedi cydnabod pryderon ynglŷn â geiriad yr eithriad cŵn cymorth ac wedi cadarnhau y bydd yn parhau i arddel ymagwedd deg a chymesur at orfodi.

Bydd Gorchymyn Estyn ffurfiol yn cael ei gyhoeddi nawr, a bydd fersiwn wedi'i diweddaru o Orchymyn 2016 ar gael ar wefan y Cyngor.

I gael rhagor o wybodaeth am faw cŵn a sut i'w riportio, ewch i: Baw cŵn - Cyngor Sir Caerfyrddin

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk