04 Tach 2025
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus yn dilyn cynnydd diweddar yn nifer y bobl sy'n galw heb wahoddiad yn cynnig gwasanaethau tirweddu a gwaith toi. Mae rhai trigolion wedi talu symiau mawr am waith oedd naill ai ddim wedi'i gwblhau neu am waith oedd o safon wael iawn.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi nodyn atgoffa am yr arwyddion rhybuddio o ran masnachwyr twyllodrus ac yn darparu cyngor i helpu trigolion i amddiffyn eu hunain rhag yr arferion anonest hyn.
Mae'r arwyddion rhybuddio cyffredin o ran masnachwyr twyllodrus yn cynnwys:
Mae'r Cyngor yn annog trigolion i wneud y canlynol:
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am Faterion Defnyddwyr a Busnes:
"Rydyn ni am sicrhau bod ein trigolion yn gwbl ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â masnachwyr twyllodrus a'u bod yn meddu ar y wybodaeth i amddiffyn eu hunain. Os yw pobl yn galw gyda chi heb wahoddiad neu os oes gennych chi bryderon am waith sy'n cael ei wneud ar eich eiddo, cysylltwch â ni neu'r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar unwaith."
Mae trigolion yn cael eu hannog i fod yn effro ac i rannu'r wybodaeth hon â theulu, ffrindiau a chymdogion.
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk