10 Rhag 2025
Mae'r Cynghorydd Linda Evans wedi'i henwi'n Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin ac yn Gadeirydd y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Cyngor Llawn heddiw (dydd Mercher 10 Rhagfyr).
Mae'r Cynghorydd Evans, sy'n aelod o grŵp Plaid Cymru, yn gwasanaethu Cyngor Sir Caerfyrddin fel cynghorydd ar gyfer ward Llanfihangel-ar-arth ers 2008, ac mae'n aelod o'r Cabinet ers 2015.
Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn heddiw, cafodd penodiad y Cynghorydd Evans ei gadarnhau a chyhoeddodd ei thîm Cabinet newydd sy'n cynnwys 10 aelod o'r cyngor, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor.
Mae'r Cabinet yn gyfrifol am fusnes cyffredinol y cyngor ac mae'n cwrdd bob pythefnos i wneud penderfyniadau ac argymhellion i'r Cyngor Llawn. Hefyd, mae'n gallu gwneud penderfyniadau'n unigol ar rai materion.
Mae pob aelod o'r weinyddiaeth flaenorol wedi cadw ei sedd, ac mae'r Cynghorydd Emlyn Schiavone wedi'i benodi'n Aelod Cabinet dros Gartrefi gan ymuno â strwythur y Cabinet:
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans: “Mae'n anrhydedd cael fy ethol yn Arweinydd y Cyngor ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Cabinet a'r holl Aelodau ar draws y Siambr er budd trigolion Sir Gaerfyrddin.”
I gael rhagor o wybodaeth am swyddogaethau'r Cabinet, neu swyddogaethau democrataidd y cyngor yn gyffredinol, ewch i wefan y Cyngor.
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk