Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

06 Tach 2025

Cyngor Sir Caerfyrddin: Diweddariad am waith adfer wedi llifogydd

Carmarthenshire County Council: Flooding recovery update

Cyngor Sir Caerfyrddin: Diweddariad am waith adfer wedi llifogydd: llif flood -2

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i roi cymorth i breswylwyr a busnesau wrth symud i'r cyfnod adfer yn dilyn llifogydd sylweddol ar draws y sir.

Roedd glaw sylweddol dros gyfnod byr wedi cyfrannu at Gyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi nifer o rybuddion ynghylch llifogydd a achosodd dŵr wyneb a llifogydd afonol ledled y Sir.

Cafodd Llesiant Delta 128 o alwadau y tu allan i'r oriau arferol ar 4/5 Tachwedd ac atebodd Canolfan Gyswllt y Cyngor 630 o alwadau yn ystod yr oriau swyddfa arferol ar 5 Tachwedd.

Bu'r timau tai a gofal cymdeithasol yn cefnogi preswylwyr, gan sicrhau bod llety dros dro a gwiriadau lles ar waith. Yn benodol, cafodd dros 40 o breswylwyr yn ardal Hendy-gwyn ar Daf eu cefnogi yn dilyn gorfod gadael Coedlan Dewi Sant, gyda llety arall wedi'i ddarparu i 20 o unigolion. Bu Tîm Ymateb Llesiant Delta hefyd yn cynorthwyo yn y ganolfan orffwys hyd nes trosglwyddo'r gwaith i'r staff Gofal Cymdeithasol yn y bore.

Yn ystod yr ymateb, cafodd y gweithwyr Priffyrdd dros 400 o adroddiadau am ddigwyddiadau, a bu 14 o griwiau'n gweithio dros nos ddydd Mawrth, gyda chymorth tri phwmp ychwanegol a gafodd eu defnyddio i reoli'r lefelau dŵr oedd yn codi.

Gan ddelio â 175 o achosion o lifogydd, bu'r gweithwyr yn ymateb i lifogydd ar briffyrdd a chwlferi wedi dymchwel, yn clirio malurion, yn cau ffyrdd er diogelwch y cyhoedd ac yn atgyweirio'r ffordd gerbydau.

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn cefnogi 189 o aelwydydd sydd wedi rhoi gwybod bod llifogydd wedi effeithio arnynt, ynghyd â 32 o fusnesau.

Mae'r Cyngor Sir yn cynnig cymorth ymarferol ac ariannol i gartrefi a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd. Mae cronfa galedi frys wedi cael ei sefydlu ar gyfer preswylwyr a busnesau cymwys sydd wedi dioddef llifogydd mewnol. Fodd bynnag, eich cwmni yswiriant ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf a dylai roi arweiniad a chyngor i chi.

Gall cartrefi sydd wedi dioddef llifogydd mewnol wneud cais am daliad o £500. Gellir darparu £1000 arall i'r preswylwyr hynny sydd heb yswiriant.

Gellir gofyn am gymorth i gael gwared ar nwyddau a dodrefn sydd wedi'u difrodi o aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd trwy wefan y Cyngor, ond cysylltwch â'ch cwmni yswiriant yn y lle cyntaf i gael gwybodaeth ac arweiniad cyn cyflwyno eich cais.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Yn sicr, mae'r llifogydd hyn wedi cael effaith sylweddol ar lawer o bobl, ac rwy'n ddiolchgar i gymunedau lleol ledled Sir Gaerfyrddin am ddod at ei gilydd a dangos y fath wytnwch.

"Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi'r rheiny sydd mewn angen, ac mae cymorth ymarferol ac ariannol ar gael."

Cyngor ynghylch llifogydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Os yw llifogydd wedi effeithio arnoch chi:

  • Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys
  • Cadwch draw oddi wrth ddŵr llifogydd. Peidiwch â cherdded, gyrru na gadael i blant neu anifeiliaid anwes chwarae mewn dŵr llifogydd.
  • Os oes rhaid i chi fynd i mewn i'r dŵr, gwisgwch fenig gwrth-ddŵr ac esgidiau rwber a chofiwch edrych yn ofalus am unrhyw beryglon cudd.
  • Cadwch unrhyw friwiau neu glwyfau agored yn lân ac yn sych. Defnyddiwch blasteri a rhwymynnau gwrth-ddŵr.
  • Golchwch eich dwylo, yn enwedig ar ôl bod yn y toiled, cyn bwyta neu wrth baratoi bwyd - dyma'r ffordd bwysicaf o ddiogelu rhag clefydau niweidiol.
  • Os nad oes gennych chi ddŵr glân, defnyddiwch hylif diheintio dwylo neu weips gwlyb.
  • Os ewch chi’n sâl ar ôl llyncu dŵr llifogydd neu fwd yn ddamweiniol, yn enwedig os bydd dolur rhydd neu dwymyn arnoch chi neu os byddwch yn cael poen yn eich stumog o fewn 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â dŵr llifogydd neu garthffosiaeth - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru 111 neu eich meddyg.
  • Peidiwch â throi offer trydanol ymlaen os ydynt wedi bod mewn dŵr llifogydd hyd nes bod trydanwr cymwys wedi gwirio’r offer, gan fod perygl o gael eich trydanu.
  • Dylai’r offer gwresogi a choginio gael gwasanaeth gan beiriannydd Gas Safe, hyd yn oed os ydynt yn edrych fel petaent yn gweithio'n iawn. Mae perygl o wenwyn carbon monocsid os nad yw’r offer yn gweithio'n iawn.

Rhagor o wybodaeth am ddelio â llifogydd gan gynnwys cyngor ynghylch sut i glirio'n ddiogel

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk

Lawrlwythiadau