11 Ebr 2025
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cynnal cyfres o sesiynau canu a hel atgofion ar draws ei lyfrgelloedd yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman. Nod y digwyddiadau hyn oedd codi ymwybyddiaeth o'r casgliad Darllen yn Well ar gyfer Dementia, adnodd sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr, a'u teuluoedd.
Roedd y sesiynau, a gynhaliwyd ym mis Mawrth, yn rhan o fenter a ariannwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, gyda’r nod o ddod â phreswylwyr cartrefi gofal a phlant ysgol at ei gilydd mewn modd a oedd yn pontio'r cenedlaethau. Ymunodd Ysgol Trimsaran, Ysgol y Castell, ac Ysgol Gymraeg Rhydaman â thrigolion cartrefi gofal lleol, gan gynnwys rhai o Ashley Court, am sesiynau canu dan arweiniad Cheryl Davies o Goldies Cymru.
Yn ogystal â'r sesiynau canu, cynhaliodd y llyfrgelloedd weithgareddau hel atgofion a oedd yn cynnwys gemau rhyngweithiol, jig-sos, a setiau persawr, i gyd wedi'u cynllunio i ysgogi sgwrs. Cafodd eitemau o gasgliad lleol y gwasanaeth llyfrgell eu harddangos gan gynnwys ffotograffau hanesyddol, ochr yn ochr â Blwch Cof a ddarparwyd gan CofGâr – gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau'r Cyngor, a oedd yn cynnwys gwrthrychau fel hen ffonau, camerâu a theganau.
Roedd nifer o blant ysgol wedi rhannu eu straeon personol am aelodau o'r teulu sy'n byw gyda dementia, gan feithrin cysylltiadau dyfnach ar draws y cenedlaethau. Fel rhan o'r fenter, rhoddwyd taflenni Darllen yn Well ar gyfer Dementia iddynt, gydag anogaeth arbennig i gymryd rhan mewn sgyrsiau gyda pherthnasau hŷn a ffrindiau am eu hatgofion a'u hoff gerddoriaeth a hyd yn oed helpu i greu rhestrau cerddoriaeth wedi'u personoli.
Mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn bwriadu parhau â'r allgymorth i gartrefi gofal yn y dyfodol, gydag ymweliadau i rannu adnoddau a dangos y gwasanaethau digidol sydd ar gael i gefnogi'r rhai sydd â dementia.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r sesiynau hyn yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o'r adnoddau sydd ar gael i'r rheini y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae'n bwysig parhau i gefnogi ein cymunedau, ac roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i ddod â phobl at ei gilydd i rannu profiadau ac atgofion.
Mae'r casgliad Darllen yn Well ar gyfer Dementia yn darparu llyfrau Cymraeg a Saesneg gyda'r nod o gefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia, yn ogystal â'u teuluoedd a'u gofalwyr. Crëwyd y fenter gan The Reading Agency ac fe'i cefnogir yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y casgliad Darllen yn Well ar gyfer Dementia, gan gynnwys digwyddiadau sydd ar ddod, cysylltwch â'ch llyfrgell leol.
Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk