Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

17 Gor 2025

Cabinet y Cyngor yn cymeradwyo cynlluniau i ymgynghori ar newidiadau i ystodau oedran mewn rhai ysgolion cynradd

Council’s Cabinet approves plans to consult on changes to age ranges in some primary schools

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau i ymgynghori ar gynigion i newid ystod oedran Ysgol Y Ddwylan, Ysgol Llanybydder, Ysgol Gymraeg Y Tymbl ac Ysgol Cwrt Henri yn ystod ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2025.

Mae Cabinet y Cyngor hefyd wedi cymeradwyo'r gwaith i fwrw ymlaen i ymgynghori ar y cynnig i ail-lunio'r ddarpariaeth Meithrinfa yn ardal Rhydaman.

Bydd cyfnod ymgynghori o chwe wythnos ar y cynigion yn dechrau ym mis Medi 2025, i gynnwys rhieni, disgyblion, llywodraethwyr a staff. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhanddeiliaid yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a mynegi eu barn.

Mae'r cynigion hyn yn dod ar ôl dileu'r Polisi Plant sy'n Codi'n 4 oed yn Sir Gaerfyrddin sy'n golygu y bydd plant yn gymwys i gael ysgol amser llawn ar ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed o 1 Medi 2025.

Mae plant sydd wedi troi'n dair oed yn gymwys i gael o leiaf 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth addysg gymeradwy anstatudol ar sail sesiynol ran-amser, naill ai yn un o'r 42 o ysgolion cynradd yn y sir sydd wedi'u dynodi'n ysgolion 3-11 a lle mae'r ddarpariaeth hon yn cael ei chynnal gan y Cyngor, neu o leiaf 10 awr o addysg mewn lleoliadau cymeradwy nas cynhelir, fel meithrinfeydd dydd neu Gylchoedd Meithrin. Mae rhieni sy'n gweithio yn gallu cael mynediad at hyd at 30 awr o addysg a gofal plant wedi'u hariannu drwy Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru ar gyfer plant 3-4 oed cymwys.

Mewn cymunedau lle mae bylchau yn y ddarpariaeth o'r elfen addysg, mae'r Cyngor yn cynnig newid rhai o'i ysgolion 4-11 i ysgolion 3-11, i'w galluogi i ddarparu'r elfen o 10 awr o leiaf o addysg anstatudol a bod yn fwy cyson o ran darpariaeth ledled Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:

"Rydym yn ymdrechu i ddarparu'r un cyfleoedd i bob plentyn yn Sir Gaerfyrddin ac fel rhan o hyn, rwy'n falch fod y Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar y newidiadau a nodir uchod er mwyn diwallu anghenion addysg gynradd yn well yn y meysydd hyn."

"Dyma'r gyfran gyntaf o ysgolion, ac mae disgwyl i fwy o ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin ddilyn yn y dyfodol."

Ewch i wefan y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Moderneiddio Addysg.  

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk