Newyddion Cyngor Sir Caerfyrddin

11 Awst 2025

Aelod o gyngor ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ennill lle ar bwyllgor y DU

Carmarthenshire youth council member earns spot on UK committee

Aelod o gyngor ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ennill lle ar bwyllgor y DU: Cyngor Ieuenctid - ES Landscape-2

Mae Evie Somers, 17, o Gaerfyrddin, wedi gwneud hanes lleol drwy ddod y person ifanc cyntaf o Sir Gaerfyrddin i gael ei phenodi i Bwyllgor Dethol Ieuenctid y DU ar gyfer tymor 2025/26.

Yn aelod ymroddedig o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin am y ddwy flynedd ddiwethaf, cafodd Evie ei dewis gan Senedd y DU a'r Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid i eistedd ar y Pwyllgor Dethol Ieuenctid dylanwadol – llwyfan sy'n grymuso pobl ifanc i graffu a chynnal ymchwiliadau ar faterion allweddol sy'n effeithio ar ieuenctid ledled y DU.

Mae'r Pwyllgor Dethol Ieuenctid yn adlewyrchu prosesau Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ac mae'n cynnwys 12 o bobl ifanc 14–19 oed o wahanol ranbarthau'r DU. Mae aelodau'n cynnal ymchwiliadau, yn casglu tystiolaeth gan academyddion, llunwyr polisi, a gweithwyr proffesiynol, ac yn llunio adroddiadau ffurfiol gydag argymhellion sy'n cael eu hanfon yn uniongyrchol i'r llywodraeth.

Aeth Evie, yr unig gynrychiolydd o Gymru, i'w chyfarfod ar-lein cyntaf yn gynharach yr wythnos hon a bydd yn cymryd ei sedd yn Senedd y DU yn Llundain ym mis Medi ar gyfer sesiwn gyntaf y pwyllgor wyneb yn wyneb.

Mewn datganiad, dywedodd Evie:

“Rwy'n gyffrous i weithio ochr yn ochr â phobl ifanc angerddol o bob cwr o'r DU i archwilio'r materion sy'n bwysicaf i ni. Bydd y cyfle hwn yn fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau newydd, dysgu gan arbenigwyr ac yn bwysicaf oll, helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc.

Rwy'n ddiolchgar i Senedd y DU a'r Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid am fy newis i. Fel unig gynrychiolydd Cymru ar y pwyllgor unigryw hwn, rwy'n ymrwymedig i roi buddiannau Cymru ar flaen y gad yn fy ngwaith. Trwy gydol fy amser yn y rôl, byddaf yn dod â ffocws cryf ar lawr gwlad wrth sicrhau cynrychiolaeth gyson, ar lefel genedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:

“Rydym yn hynod falch o gyflawniad Evie wrth sicrhau lle ar Bwyllgor Dethol Ieuenctid y DU - y cyntaf i Sir Gaerfyrddin. Mae ei hymroddiad i lais a chynrychiolaeth ieuenctid yn ysbrydoledig, a bydd hi'n eiriolwr pwerus nid yn unig i bobl ifanc yn ein sir ond ledled Cymru. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol, a does dim unrhyw amheuaeth gen i y bydd Evie yn gwneud cyfraniad ystyrlon i drafodaethau cenedlaethol sy'n llunio'r dyfodol i'w chenhedlaeth.”

Mae penodiad Evie yn dyst i'w hangerdd dros ymgysylltu dinesig ac eiriolaeth ieuenctid, ac mae disgwyl iddi chwarae rhan hanfodol wrth lunio trafodaethau ac argymhellion ar y materion sy'n bwysicaf i bobl ifanc.

Gwybodaeth Gyswllt

Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council
pressoffice@carmarthenshire.gov.uk